P-03-316 Dylid gosod yr angen i gynnal hebryngwyr croesfannau ysgol sy’n bodoli eisoes yn amod o Grant Trafnidiaeth Llywodraeth Cynulliad Cymru i gynghorau lleol na ellir mo’i newid.
Rydym yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i annog Llywodraeth Cymru i’w gwneud yn amod derbyn ar gyfer unrhyw Grant Teithio gan Lywodraeth Cynulliad Cymru, bod y cyngor perthnasol yn parhau i gyflogi hebryngwyr croesfannau ysgol i ddiogelu ein plant. Yn benodol, dylid parhau i gadw’r un nifer o hebryngwyr a lleoliadau a oedd yn 2010 ac na ddylai statws yr hebryngwyr hyn newid oni bai bod mwyafrif o’r rhieni yn yr ysgolion perthnasol yn cytuno â hynny.
Linc i’r ddeiseb: http://www.senedd.cynulliadcymru.org/mgIssueHistoryHome.aspx?IId=924
Cynigwyd gan: Mr C Payne
Nifer y llofnodion: 229
Ystyriwyd gan y Pwyllgor ar: 1 Mawrth, 29 Mawrth, 21 Mehefin 2011.
Y wybodaeth ddiweddaraf: Cafwyd gohebiaeth gan y Gweinidog Llywodraeth Leol a Chymunedau.